Ffair Diwydiannau Creadigol
Cyfle i glywed y diweddaraf o’r sector, holi’r arbenigwyr a rhwydweithio. Bydd yna amryw o stondinau ac arddangosfeydd i helpu ehangu’ch gyrfa , yn ogystal â chyfleoedd ymarferol i ddefnyddio’r camerâu diweddaraf, gwella defnydd o gyfryngau cymdeithasol / digidol, a gweld arddangosfeydd gwallt, colur a gwisgoedd. Sesiynau panel ar hawlfraint a IPR, dewis asiant a llwyddo’n llawrydd.
Bydd cerddoriaeth byw i’ch diddanu a’r siawns i wneud y cysylltiadau pwysig i’ch gyrfa dros baned.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 029 20554601 neu cysylltwch â beth@cultcymru.org
Prosiect ar y cyd rhwng pedwar undeb yn y diwydiannau creadigol yw CULT Cymru, a ariannir gan Lywodraeth Cymru trwy ei Chronfa Dysgu Undebau.
Trwy ein holiadur dysgu rydym yn darganfod anghenion gweithwyr yn y diwydiant ac yn mynd ati i drefnu cyfleoedd dysgu amrywiol, o weithdai i ddigwyddiadau rhwydweithio a dosbarthiadau meistr.
